Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2018
Amser:
08.30 -
09.12
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Siân Wilkins (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cafwyd ymddiheuriadau gan y Dirprwy Lywydd, a oedd yn cynrychioli'r Cynulliad yng nghynhadledd BIPA yn Sligo.
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Cynhelir pob pleidlais ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) yn ystod trafodion Cyfnod 3.
· Bydd egwyl o 10 munud cyn dechrau trafodion Cyfnod 3.
· Ni fydd cyfnod pleidleisio heblaw yn ystod trafodion Cyfnod 3.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 4 Gorffennaf 2018 –
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (60 munud)
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell? (60 munud)
· Detholodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 20 Mehefin 2018
NNDM6733
Simon Thomas
Jenny Rathbone
Dai Lloyd
David Melding
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) mai 21 Mehefin yw diwrnod aer glân;
b) effaith niweidiol llygredd aer ar ein hiechyd - mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod llygredd aer yn achosi 2,000 o farwolaethau y flwyddyn, sef 6 y cant o gyfanswm y marwolaethau yng Nghymru; a
c) bod yn rhaid delio â NO2 a mater gronynnol er mwyn goresgyn llygredd aer.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llygredd aer parhaus a chyflwyno parthau aer glân i newid ymddygiad a gwella iechyd dinasyddion.
Cefnogwyr:
Rhun ap Iorwerth
Siân Gwenllian
Vikki Howells
Lee Waters
· Cytunodd Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl Aelodau nesaf ar 4 Gorffennaf 2018, a dewisiwyd y cynnig a ganlyn:
NNDM6740
Lee Waters
Mick Antoniw
Llyr Gruffydd
Mike Hedges
Vikki Howells
Jane Hutt
Jenny Rathbone
Simon Thomas
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad ymchwiliad ar y cyd Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Phwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin ar y gwersi i'w dysgu yn sgil methiant Carillion.
2. Yn cydnabod adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar sut y mae GIG Lloegr yn rheoli'r contract gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol gyda Capita.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dadansoddiad o'r gwersi i Gymru o'r ddau adroddiad hyn.
Cadarnhaodd Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor ar 22 Mai i gyfeirio Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1, a chytunwyd ar 26 Hydref 2018 fel terfyn amser i'r Pwyllgor adrodd ar Gyfnod 1, a 14 Rhagfyr 2018 fel y dyddiad ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 2 y Pwyllgor.
Cytunodd Rheolwyr Busnes i'r cais gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ymestyn yr amser sydd ar gael ar gyfer gwaith craffu yn ystod Cyfnod 1. Y dyddiad newydd ar gyfer cyflwyno adroddiad Cyfnod 1 yw dydd Mercher 18 Gorffennaf 2018 a'r dyddiad newydd ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 2 yw 26 Hydref 2018.
Fodd bynnag, pwysleisiodd Arweinydd y Tŷ y dylai'r Pwyllgor sicrhau bod ei adroddiad Cyfnod 1 yn trafod agweddau technegol ar y Bil fel mater o flaenoriaeth.
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion).
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau er mwyn craffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y memorandwm erbyn 5 Gorffennaf 2018, fel y gellir cynnal dadl arno yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Gorffennaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ymgynghori ar amserlen ar gyfer Cyfnod 1 a Chyfnod 2.
Cymeradwyodd y Rheolwyr Busnes y papur, gan gytuno i ddychwelyd at y mater ymhen pythefnos am benderfyniad.
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd fod llefarwyr y pleidiau yn cymryd gormod o amser wrth holi Ysgrifenyddion y Cabinet/Gweinidogion ynghylch datganiadau, a bod Ysgrifenyddion y Cabinet/Gweinidogion hefyd yn rhy hir yn ymateb. Gofynnodd i'r Aelodau fod yn fwy cryno i'w galluogi i alw cymaint o Aelodau â phosibl.
Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu rhoi papur ar yr agenda ar gyfer cyfarfod yr wythnos nesaf yn cynnig na ddylai arweinwyr y pleidiau bellach allu cymryd rhan yn y balot ar gyfer Cwestiynau'r Prif Weinidog, ac efallai y bydd Rheolwyr Busnes yn dymuno trafod hyn â'u grwpiau ymlaen llaw.
Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes y gallai fod angen cynnal cyfarfod Cyfarfod Llawn ychwanegol ddydd Iau neu ddydd Gwener, oherwydd yr holl symud yn ôl ac ymlaen rhwng Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi ynghylch Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) os byddai angen cynnal pleidlais ar Gynnid Cydsyniad Deddfwriaethol.